Anogir pawb i ddilyn ffordd iach o fyw. Mae hyn yn golygu deiet iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Mae’r Llywodraeth yn annog pobl yn weithredol i fwyta deiet gwell.
Mae gan arlwywyr rôl allweddol yn helpu’r Llywodraeth i gyflawni’r targed hwn oherwydd fod cyfran sylweddol o brydau yn cael eu bwyta i ffwrdd oddi wrth y cartref neu fel prydau ‘pryd ar glyd’
Mae Cadw Cydbwysedd Iechyd Da yn dangos y gyfran o'r deiet cyffredinol a ddylai ddod o bob un o'r pum grwp bwyd er mwyn darparu digon o'r maetholion sydd eu hangen ar y corff.
Mae deiet iach yn cynnwys llawer o fwydydd sy'n llawn startsh megis bara a thatws ynghyd â digon o ffrwythau a llysiau.
Mae hefyd yn cynnwys meintiau cymedrol o gig, pysgod a dewisiadau eraill ynghyd â llaeth a chynhyrchion llaeth. Ni ddylid bwyta bwydydd sydd yn uchel mewn braster a siwgr yn rhy aml.
Gallwch argraffu crynodeb o brif bwyntiau’r uned hon o’r dudalen hon.
Defnyddiwch eich amgylchedd dysgu i adael yr uned.