Cadw cydbwysedd iechyd da
Does dim bwydydd da a bwydydd drwg – cydbwysedd cyffredinol y deiet sydd yn cyfrif. I helpu i ddiffinio deiet cytbwys, lansiwyd Plat Bwyta’n Iach yn 2007. Mae hwn yn fersiwn diweddaraf Cadw Cydbwysedd Iechyd Da a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Addysg Iechyd, yr Adran Iechyd a’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (a elwir DEFRA erbyn hyn).
Mae Cadw Cydbwysedd Iechyd Da'n dangos y gyfran o'r deiet cyffredinol a ddylai ddod o bob un o'r pum grwp bwyd er mwyn darparu digon o'r maetholion sydd eu hangen ar y corff.
Mae hwn yn erfyn defnyddiol i arlwywyr wrth gynllunio bwydlen oherwydd mae’n dangos y cydbwysedd cyffredinol y dylid anelu ato yn y prydau a weinir