Arlwyo ar gyfer bwyta’n iach
Mae hon yn sgrîn sydd â dwy ddolen. Bydd y Cyfarwyddyd yn dweud wrthych am glicio ar bob un, gallwch naill ai wrando, neu glicio ar bob un o’r dolennau.
Gan ddefnyddio model Plat Bwyta’n Iach fel llinyn mesur, mae angen i arlwywyr sicrhau eu bod yn defnyddio meintiau cymedrol o laeth a chynhyrchion llaeth

Dylech hefyd ddefnyddio fersiynau braster isel lle mae’n bosib ac yn addas.
Llun o gogydd yn paratoi bwyd iach
Cynnwys Braster
Cynnwys Braster - dewisiad
Arferion arlwyo ar gyfer gwneud seigiau iachach
Dyma bum ffordd hawdd o wneud seigiau yn fwy iach:
Rhif 1
Wrth ddefnyddio hufen mewn sawsiau, ceisiwch ddefnyddio fersiwn braster isel neu ychwanegwch iogwrt neu fromage frais isel mewn braster.
Rhif 2
Ar gyfer sawsiau caws, ceisiwch ddefnyddio llai o gaws sydd â blas cryf.
Rhif 3
Defnyddiwch laeth sgim neu laeth hanner-sgim mewn sawsiau yn hytrach na llaeth cyflawn.
Rhif 4
Defnyddiwch iogwrt Groegaidd braster isel yn hytrach na hufen sur ar gyfer dipiau.
Rhif 5
Defnyddiwch gaws braster isel ar gyfer brechdanau a byrddau caws.
Cau
Arferion Da gyda Chynhyrchion Llaeth
Arferion Da gyda Chynhyrchion Llaeth - dewisiad
Cynnwys braster gwahanol gynhyrchion
Isod, dangosir y gramiau o fraster i bob 100g sydd mewn amrywiaeth o gynhyrchion llaeth. Blaswch rai o’r fersiynau braster isel eich hunan fel eich bod yn dod yn gyfarwydd â’u blas a’u hansawdd gwahanol.
Llun o gaws, iogwrt, fromage frais a llaeth
  • Caws Cheddar 33g 
  • Caws meddal braster cyflawn  31g 
  • Mozzarella 20g 
  • Caws meddal braster isel 15g 
  • Fromage frais braster cyflawn 7g 
  • Iogwrt plaen braster cyflawn 3g 
  • Iogwrt plaen braster isel 1g 
  • Llaeth cyflawn 3.8g 
  • Llaeth hanner-sgim 1.75g 
  • Llaeth sgim 0.3g 
Cau
Cliciwch ar y botymau i ddarganfod mwy, ac yna cliciwch ar Ymlaen er mwyn mynd yn ôl at ddewislen Plat Bwyta’n Iach
Laeth a chynhyrchion llaeth
Ymlaen
Dychwelyd at y sgrîn flaenorol
Dewisiadau
Arlwyo ar gyfer bwyta’n iach
Help
Cyfarwyddyd
Geirfa

Darllenwch y wybodaeth, ac yna cliciwch ar y botymau er mwyn darganfod mwy.

Wedi i chi orffen, cliciwch ar Ymlaen.

Cau'r naidlen gyfarwyddyd