Dylai bwydydd sydd yn cynnwys meintiau mawr o fraster neu siwgr ffurfio cyfran gymharol fechan o gyfanswm cymeriant bwyd a diod pobl.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn bwyta bwydydd o’r grwp hwn yn rhy aml!
Myth: Ni ddylid defnyddio melysyddion yn lle siwgr gan eu bod yn beryglus i’n hiechyd
Defnyddir melysyddion fel aspartame a sacarin yn helaeth wrth gynhyrchu bwyd gwneud. Oherwydd eu bod mor felys, dim ond meintiau bychain sydd angen eu defnyddio. Gosodir Cymeriant Dyddiol Derbyniol (ADI) ar gyfer melysyddion, fel unrhyw ychwanegyn arall. Mae’r tueddiadau presennol yn dangos nad yw oedolion yn debygol o fynd dros yr ADI ar gyfer melysyddion.
Fodd bynnag, mae’n bwysig ychwanegu dwr at dewsuddion (concentrated soft drinks) i blant sy’n cynnwys sacarin er mwyn lleihau’r perygl o roi mwy o felysyddion iddynt nag sydd wedi ei gymeradwyo. Yn ogystal, mae ymchwil diweddar yn dangos fod bwyta gormod o felysyddion yn gallu peri i ddannedd plant ifanc iawn bydru.