Myth: Dim ond ffrwythau a llysiau ffres sydd yn iachus
Mae pobl yn aml yn meddwl mai dim ond ffrwythau a llysiau ffres sydd yn iachus. Maent yn gwneud y camgymeriad o dybio fod y cynnyrch yn colli llawer o faetholion wrth iddo gael ei brosesu. Fodd bynnag, mae rhai prosesau cynhyrchu bwyd, fel rhewi, yn gallu cadw lefelau rhai maetholion mewn bwyd.
Myth: Mae seigiau llysieuol bob amser yn ddewis iachach
Gall seigiau llysieuol sydd yn cynnwys cyfran uchel o gaws, olew, toes neu saws hufenllyd gynnwys llawer o fraster. Ar y llaw arall, gall cig coch fod yn isel mewn braster os yw’n goch i gyd a’r holl fraster gweladwy wedi ei dorri i ffwrdd.
Cliciwch ar y botwm Mythau Cyffredin! i weld barn gyffredin ynglŷn â’r math hwn o fwyd sydd, mewn gwirionedd, yn hollol anghywir!
Wedi i chi orffen cliciwch ar Ymlaen